R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â datganoli rhagor o bwerau pellach i Gymru? OAQ(4)2130(FM)W
2. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr effaith y mae galwadau 999 diangen yn ei chael ar wasanaethau ambiwlans brys yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2136(FM)
3. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddinas-ranbarth Caerdydd? OAQ(4)2124(FM)
4. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi galwadau i dreialu sefyll ddiogel yn stadia pêl-droed Cymru? OAQ(4)2128(FM)
5. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am warchod gwybodaeth bersonol cleifion y GIG? OAQ(4)2135(FM)
6. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y rhwydwaith cludiant cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)2131(FM)
7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa awydd sydd gan Lywodraeth Cymru i symud at gynllun taliadau sy'n seiliedig ar ardaloedd mewn perthynas â cholofn un o'r Polisi Amaethyddol Cyffredin? OAQ(4)2132(FM)
9. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch astudiaeth ddiweddaraf Prifysgol Efrog ynghylch cymeradwyo cyffuriau drud? OAQ(4)2133(FM)
9. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i wella gofal llygaid i gleifion yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)2129(FM)
10. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer cynyddu lefelau perchentyaeth yng Nghymru? OAQ(4)2121(FM)
11. Ann Jones (Dyffryn Clwyd) A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynllun pensiwn y diffoddwyr tân? OAQ(4)2127(FM)R
12. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr effaith y bydd cau cyffordd 41 yr M4 dros dro yn ei chael ar Bort Talbot? OAQ(4)2118(FM)
13. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pryd y bydd y Prif Weinidog yn cynnal ei gyfarfod nesaf gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig? OAQ(4)2122(FM)W
14. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd yng Nghymru? OAQ(4)2126(FM)W
15. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y datblygiad Bro Abertawe? OAQ(4)2120(FM)